Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 13 Medi 2021
Amser:
10.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Gareth Price
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
Deisebau@senedd.cymru
------
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant
(10.00) (Tudalennau 1 - 46)
2 Deisebau newydd
(10.00-10.30)
2.1 P-06-1172 Gwahardd tân gwyllt rhag cael ei werthu i'r cyhoedd
(Tudalennau 47 - 61)
2.2 P-06-1174 Mae angen atal Llywodraeth Cymru a grwpiau cyhoeddus rhag gwneud Cymru yn Genedl sy'n Noddfa
(Tudalennau 62 - 73)
2.3 P-06-1175 Stopiwch y cyfnodau atal byr yn ystod gwyliau hanner tymor. Dyma'r unig seibiannau y caniateir i staff addysgu eu cael
(Tudalennau 74 - 78)
2.4 P-06-1176 Y Siarter Urddas i ysbrydoli pob dinesydd i ddod yn llysgennad dros Gymru
(Tudalennau 79 - 80)
2.5 P-06-1177 Darparu cynhyrchion mislif yn rhad ac am ddim i bob person sy'n cael mislif yng Nghymru
(Tudalennau 81 - 87)
2.6 P-06-1178 Prydau ysgol am ddim i bob disgybl yng Nghymru
(Tudalennau 88 - 93)
2.7 P-06-1180 Cynyddu'r addysgu a'r wybodaeth sydd ar gael yn rhwydd am gyffuriau yn ysgolion uwchradd Cymru
(Tudalennau 94 - 101)
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
(10.30-11.30)
Yr Amgylchedd a Materion Gwledig
3.1 P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes
(Tudalennau 102 - 115)
3.2 P-05-1003 Mynnu Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi'i halogi'n radiolegol yn nyfroedd Cymru
(Tudalennau 116 - 143)
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
3.3 P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy'n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl
(Tudalennau 144 - 151)
3.4 P-05-1035 Dylid caniatáu i bartneriaid genedigaeth fod yn bresennol adeg sganiau, dechrau esgor, yn ystod yr enedigaeth ac ar ôl yr enedigaeth
(Tudalennau 152 - 156)
3.5 P-05-1045 Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol
(Tudalennau 157 - 161)
3.6 P-05-1062 Rhoi'r gorau i'r prawf rt-PCR i brofi ar gyfer COVID-19, gan nad yw'n addas i'r diben
(Tudalennau 162 - 164)
3.7 P-05-1138 Profion COVID-19 wythnosol ar gyfer staff sy'n gofalu am bobl ag anghenion iechyd meddygol cymhleth
(Tudalennau 165 - 166)
Addysg
3.8 P-05-1133 Dylid addasu maes llafur hyfforddiant athrawon i gynnwys Hyfforddiant Trawsnewidiol a Deallusrwydd Emosiynol
(Tudalennau 167 - 170)
3.9 P-05-1135 Cyllid wedi'i dargedu ar gyfer canolfannau addysg awyr agored preswyl, sydd bellach yn methu â gweithredu am 12 mis
(Tudalennau 171 - 179)
Diwylliant, twristiaeth a chwaraeon
3.10 P-05-949 ARBED YR HEN YSGOL GANOLRADD I FERCHED Y BONT-FAEN RHAG EI DYMCHWEL
(Tudalennau 180 - 183)
Caiff y ddwy eitem a ganlyn eu grwpio i gael eu trafod gyda'i gilydd
3.11 P-05-1073 Sefydlu ac adeiladu cangen newydd o Amgueddfa Cymru sy’n canolbwyntio ar ran Cymru mewn trefedigaethedd
(Tudalennau 184 - 190)
3.12 P-05-1086 Dylid creu Amgueddfa Genedlaethol ar gyfer Hanes a Threftadaeth Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Cymru
(Tudalennau 191 - 194)
Cyllid
3.13 P-05-1069 Arbed y tir fferm a'r caeau gwyrdd yn Cosmeston
(Tudalennau 195 - 209)
Deisebau sydd bellach wedi'u datrys
Caiff y tair eitem a ganlyn eu grwpio i gael eu trafod gyda'i gilydd
3.14 P-05-856 Gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr masnachol 3ydd parti yng Nghymru
(Tudalennau 210 - 212)
Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021
3.15 P-05-915 Galwad am well gorfodaeth o ffermydd cŵn bach yng Nghymru.
(Tudalen 213)
Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021
3.16 P-05-939 Gosod embargo ar unwaith ar drwyddedau bridio cŵn newydd, ar adnewyddu trwyddedau ac ar geisiadau cynllunio nes bod y rheoliadau'n addas i’r diben a nes bod modd eu gorfodi
(Tudalennau 214 - 215)
Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021
3.17 P-05-1068 Caniatáu cyfarfodydd ymbellhau cymdeithasol mewn gerddi preifat i ddilyn y wyddoniaeth ac osgoi teimlo'n ynysig
(Tudalennau 216 - 221)
3.18 P-06-1191 Diddymu mesurau ymbellhau cymdeithasol ym mhob priodas yng Nghymru yr haf hwn ar ôl 15 Gorffennaf 2021
(Tudalennau 222 - 226)
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 5 o’r cyfarfod.
5 Blaenraglen Waith
(11.30 - 11.45)